1 Gwell bod heb blant a bod gennym rinwedd,oherwydd yn yr atgof amdani y daw anfarwoldeb,gan yr arddelir hi gan Dduw a hefyd gan bobl.
2 Yn ei gŵydd fe'i hefelychir,a hiraethir amdani yn ei habsen;ac yn yr oes a ddaw, bydd yn gorymdeithio â thorch am ei phen,wedi mynd â'r gamp ac ennill gwobr anllygredigaeth.
3 Ond ni bydd eu hepil toreithiog o les i'r annuwiol,am na all yr un eginyn bastardaidd fwrw gwreiddyn yn ddwfnna daearu'n gadarn.
4 Oherwydd er i'w ganghennau flaguro am dymor,gan nad oes iddo gadernid daear fe'i hysgydwir gan y storma'i ddiwreiddio gan rym y gwyntoedd.