2 Yn ei gŵydd fe'i hefelychir,a hiraethir amdani yn ei habsen;ac yn yr oes a ddaw, bydd yn gorymdeithio â thorch am ei phen,wedi mynd â'r gamp ac ennill gwobr anllygredigaeth.
3 Ond ni bydd eu hepil toreithiog o les i'r annuwiol,am na all yr un eginyn bastardaidd fwrw gwreiddyn yn ddwfnna daearu'n gadarn.
4 Oherwydd er i'w ganghennau flaguro am dymor,gan nad oes iddo gadernid daear fe'i hysgydwir gan y storma'i ddiwreiddio gan rym y gwyntoedd.
5 Rhwygir ei frigau i ffwrdd cyn dod i'w llawn dwf;bydd ei ffrwyth yn ddiwerth ac anaeddfed i'w fwyta,heb fod yn dda i ddim yn y byd.
6 Oherwydd bydd plant a genhedlir o gydorwedd anghyfreithlonyn dystiolaeth i bechod eu rhieni yn nydd yr archwiliad arnynt.
7 Ond bydd y cyfiawn, er iddo farw'n gynnar, yn gorffwys mewn hedd.
8 Nid hirhoedledd sy'n rhoi ei werth i henaint,ac nid amlder blynyddoedd yw ei fesur.