6 Deallodd Esau fod Isaac wedi bendithio Jacob a'i anfon ymaith i Padan Aram i gymryd gwraig oddi yno, ac iddo orchymyn iddo wrth ei fendithio, “Paid â phriodi gwraig o blith merched Canaan”,
7 a bod Jacob wedi gwrando ar ei rieni a mynd i Padan Aram.
8 Pan welodd Esau nad oedd merched Canaan wrth fodd Isaac ei dad,
9 aeth at Ismael a chymryd yn wraig, at ei wragedd eraill, Mahalath ferch Ismael, fab Abraham, chwaer Nebaioth.
10 Ymadawodd Jacob â Beerseba a theithio tua Haran.
11 A daeth i ryw fan ac aros noson yno, gan fod yr haul wedi machlud. Cymerodd un o gerrig y lle a'i gosod dan ei ben, a gorweddodd i gysgu yn y fan honno.
12 Breuddwydiodd ei fod yn gweld ysgol wedi ei gosod ar y ddaear, a'i phen yn cyrraedd i'r nefoedd, ac angylion Duw yn dringo a disgyn ar hyd-ddi.