Genesis 35 BCND

Duw'n Bendithio Jacob ym Methel

1 Dywedodd Duw wrth Jacob, “Cod, dos i fyny i Fethel, ac aros yno; a gwna yno allor i'r Duw a ymddangosodd iti pan oeddit yn ffoi rhag dy frawd Esau.”

2 Yna dywedodd Jacob wrth ei deulu a phawb oedd gydag ef, “Bwriwch ymaith y duwiau dieithr sydd yn eich mysg, ac ymlanhau, a newid eich dillad.

3 Codwn ac awn i fyny i Fethel, er mwyn imi wneud allor yno i'r Duw a'm gwrandawodd yn nydd fy nghyfyngder, ac a fu gyda mi ar fy nhaith.”

4 Felly rhoesant i Jacob yr holl dduwiau dieithr oedd yn eu meddiant a'r modrwyau oedd yn eu clustiau, a chuddiodd Jacob hwy dan y dderwen ger Sichem.

5 Fel yr oeddent yn teithio, daeth arswyd mawr ar y dinasoedd o amgylch, fel na fu iddynt ymlid meibion Jacob.

6 A daeth Jacob a'r holl bobl oedd gydag ef i Lus, hynny yw Bethel, yng ngwlad Canaan,

7 ac adeiladodd allor yno, ac enwi'r lle El-bethel, am mai yno yr ymddangosodd Duw iddo pan oedd yn ffoi rhag ei frawd.

8 A bu farw Debora, mamaeth Rebeca, a chladdwyd hi dan dderwen islaw Bethel; ac enwyd honno Alon-bacuth.

9 Ymddangosodd Duw eto i Jacob, ar ôl iddo ddod o Padan Aram, a'i fendithio.

10 Dywedodd Duw wrtho, “Jacob yw dy enw, ond nid Jacob y gelwir di o hyn allan; Israel fydd dy enw.” Ac enwyd ef Israel.

11 A dywedodd Duw wrtho, “Myfi yw Duw Hollalluog. Bydd ffrwythlon ac amlha; daw ohonot genedl a chynulliad o genhedloedd, a daw brenhinoedd o'th lwynau.

12 Rhof i ti y wlad a roddais i Abraham ac Isaac, a bydd y wlad i'th hil ar dy ôl.”

13 Yna aeth Duw i fyny o'r man lle bu'n llefaru wrtho.

14 A gosododd Jacob golofn, sef colofn garreg, yn y lle y llefarodd wrtho; tywalltodd arni ddiodoffrwm, ac arllwys olew arni.

15 Felly enwodd Jacob y lle y llefarodd Duw wrtho, Bethel.

Rachel yn Marw wrth Esgor

16 Yna aethant o Fethel. Pan oedd eto beth ffordd o Effrath, esgorodd Rachel, a bu'n galed arni wrth esgor.

17 A phan oedd yn ei gwewyr, dywedodd y fydwraig wrthi, “Paid ag ofni, oherwydd mab arall sydd gennyt.”

18 Ac fel yr oedd yn gwanychu wrth farw, rhoes iddo'r enw Ben-oni; ond galwodd ei dad ef Benjamin.

19 Yna bu farw Rachel, a chladdwyd hi ar y ffordd i Effrath, hynny yw Bethlehem,

20 a gosododd Jacob golofn ar ei bedd; hon yw colofn bedd Rachel, sydd yno hyd heddiw.

21 Teithiodd Israel yn ei flaen, a gosod ei babell y tu draw i Migdal-eder.

22 Tra oedd Israel yn byw yn y wlad honno, aeth Reuben a gorwedd gyda Bilha gwraig ordderch ei dad; a chlywodd Israel am hyn.Yr oedd deuddeg o feibion gan Jacob.

Meibion Jacob

23 Meibion Lea: Reuben cyntafanedig Jacob, Simeon, Lefi, Jwda, Issachar, a Sabulon.

24 Meibion Rachel: Joseff a Benjamin.

25 Meibion Bilha morwyn Rachel: Dan a Nafftali.

26 Meibion Silpa morwyn Lea: Gad ac Aser. Dyma'r meibion a anwyd iddo yn Padan Aram.

Marw Isaac

27 Daeth Jacob at ei dad Isaac i Mamre, neu Ciriath-arba, hynny yw Hebron, lle bu Abraham ac Isaac yn aros dros dro.

28 Cant a phedwar ugain oedd oed Isaac.

29 Yna anadlodd Isaac ei anadl olaf, a bu farw, a'i gasglu at ei bobl yn hen ac oedrannus. Claddwyd ef gan ei feibion Esau a Jacob.