Genesis 50 BCND

1 Yna fe'i taflodd Joseff ei hun ar gorff ei dad, ac wylo a'i gusanu.

2 Gorchmynnodd Joseff i'w weision, y meddygon, eneinio ei dad. Bu'r meddygon yn eneinio Israel

3 dros ddeugain diwrnod, sef yr amser angenrheidiol i eneinio, a galarodd yr Eifftiaid amdano am saith deg diwrnod.

4 Pan ddaeth y dyddiau i alaru amdano i ben, dywedodd Joseff wrth deulu Pharo, “Os cefais unrhyw ffafr yn eich golwg, siaradwch drosof wrth Pharo, a dywedwch,

5 ‘Gwnaeth fy nhad i mi gymryd llw. Dywedodd, “Yr wyf yn marw, ac yr wyf i'm claddu yn y bedd a dorrais i mi fy hun yng ngwlad Canaan.” Yn awr gad i mi fynd i fyny i gladdu fy nhad; yna fe ddof yn ôl.’ ”

6 Atebodd Pharo, “Dos i fyny i gladdu dy dad, fel y gwnaeth iti dyngu.”

7 Felly aeth Joseff i fyny i gladdu ei dad, a chydag ef aeth holl weision Pharo, henuriaid ei dŷ, a holl henuriaid gwlad yr Aifft,

8 holl dŷ Joseff, a'i frodyr, a thŷ ei dad. Dim ond y rhai bychain, a'r defaid a'r gwartheg, a adawsant yng ngwlad Gosen.

9 Aeth i fyny gydag ef gerbydau a marchogion, llu mawr ohonynt.

10 Wedi iddynt gyrraedd llawr dyrnu Atad, sydd y tu draw i'r Iorddonen, gwnaethant yno alarnad uchel a chwerw iawn. Galarnadodd Joseff am ei dad am saith diwrnod.

11 Pan welodd y Canaaneaid, preswylwyr y wlad, y galar ar lawr dyrnu Atad, dywedasant, “Dyma alar mawr gan yr Eifftiaid.” Felly enwyd y lle y tu draw i'r Iorddonen yn Abel-misraim.

12 A gwnaeth ei feibion i Jacob fel yr oedd wedi gorchymyn iddynt;

13 oherwydd daeth ei feibion ag ef i wlad Canaan a'i gladdu ym maes Machpela, i'r dwyrain o Mamre, yn yr ogof a brynodd Abraham gyda'r maes gan Effron yr Hethiad i gael hawl bedd.

14 Ac wedi iddo gladdu ei dad, dychwelodd Joseff i'r Aifft gyda'i frodyr a phawb oedd wedi mynd i fyny gydag ef i gladdu ei dad.

Joseff yn Tawelu Ofnau ei Frodyr

15 Wedi marw eu tad, daeth ofn ar frodyr Joseff, a dywedasant, “Efallai y bydd Joseff yn ein casáu ni, ac yn talu'n ôl yr holl ddrwg a wnaethom iddo.”

16 A daethant at Joseff, a dweud, “Rhoddodd dy dad orchymyn fel hyn cyn marw,

17 ‘Dywedwch wrth Joseff, “Maddau yn awr ddrygioni a phechod dy frodyr, oherwydd gwnaethant ddrwg i ti.” ’ Yn awr, maddau ddrygioni gweision Duw dy dad.” Wylodd Joseff wrth iddynt siarad ag ef.

18 Yna daeth ei frodyr a syrthio o'i flaen, a dweud, “Yr ydym yn weision i ti.”

19 Ond dywedodd Joseff wrthynt, “Peidiwch ag ofni. A wyf fi yn lle Duw?

20 Yr oeddech chwi yn bwriadu drwg yn f'erbyn; ond trodd Duw y bwriad yn ddaioni, er mwyn gwneud yr hyn a welir heddiw, cadw'n fyw llawer o bobl.

21 Felly peidiwch ag ofni; fe'ch cynhaliaf chwi a'ch rhai bach.” A chysurodd hwy, a siarad yn dyner wrthynt.

Marw Joseff

22 Arhosodd Joseff a theulu ei dad yn yr Aifft. Bu Joseff fyw am gant a deg o flynyddoedd,

23 a gwelodd blant Effraim hyd y drydedd genhedlaeth. Ar liniau Joseff hefyd y maethwyd plant Machir fab Manasse.

24 Yna dywedodd Joseff wrth ei frodyr, “Yr wyf yn marw; ond y mae Duw yn sicr o ymweld â chwi a'ch dwyn i fyny o'r wlad hon i'r wlad a addawodd trwy lw i Abraham, Isaac a Jacob.”

25 A gwnaeth Joseff i feibion Israel dyngu llw. Dywedodd, “Y mae Duw yn sicr o ymweld â chwi; ewch chwithau â'm hesgyrn i fyny oddi yma.”

26 Bu Joseff farw yn gant a deg oed, ac wedi iddynt ei eneinio, rhoesant ef mewn arch yn yr Aifft.