46 Ac meddai Jacob wrth ei berthnasau, “Casglwch gerrig,” a chymerasant gerrig a'u gwneud yn garnedd; a bwytasant yno wrth y garnedd.
47 Enwodd Laban hi Jegar-sahadwtha, ond galwodd Jacob hi Galeed.
48 Dywedodd Laban, “Y mae'r garnedd hon yn dystiolaeth rhyngom heddiw.” Am hynny, enwodd hi Galeed,
49 a hefyd Mispa, oherwydd dywedodd, “Gwylied yr ARGLWYDD rhyngom, pan fyddwn o olwg ein gilydd.
50 Os bydd iti gam-drin fy merched, neu gymryd gwragedd heblaw fy merched, heb i neb ohonom ni wybod, y mae Duw yn dyst rhyngom.”
51 A dywedodd Laban wrth Jacob, “Dyma'r garnedd hon a'r golofn yr wyf wedi ei gosod rhyngom.
52 Y mae'r garnedd hon yn dystiolaeth, ac y mae'r golofn hon yn dystiolaeth, na ddof heibio'r garnedd hon atat ti, ac na ddoi dithau heibio'r garnedd hon a'r golofn hon ataf fi, i wneud niwed.