8 gan feddwl, “Os daw Esau at y naill wersyll a'i daro, yna caiff y llall ddianc.”
9 A dywedodd Jacob, “O Dduw fy nhadau, Duw Abraham a Duw Isaac, O ARGLWYDD, dywedaist wrthyf, ‘Dos yn ôl i'th wlad ac at dy dylwyth, a gwnaf i ti ddaioni.’
10 Nid wyf yn deilwng o gwbl o'r holl ymlyniad a'r holl ffyddlondeb a ddangosaist tuag at dy was; oherwydd deuthum dros yr Iorddonen hon heb ddim ond fy ffon, ond yn awr yr wyf yn ddau wersyll.
11 Achub fi o law fy mrawd, o law Esau; y mae arnaf ei ofn, rhag iddo ddod a'n lladd, yn famau a phlant.
12 Yr wyt ti wedi addo, ‘Yn ddiau gwnaf ddaioni i ti, a bydd dy hil fel tywod y môr, sy'n rhy niferus i'w rifo.’ ”
13 Arhosodd yno y noson honno, a chymerodd o'r hyn oedd ganddo anrheg i'w frawd Esau:
14 dau gant o eifr ac ugain o fychod, dau gant o ddefaid ac ugain o hyrddod,