12 Gofalodd Joseff am fwyd i'w dad a'i frodyr, ac i holl dylwyth ei dad yn ôl yr angen.
13 Darfu'r bwyd drwy'r wlad, am fod y newyn yn drwm iawn; a nychodd gwlad yr Aifft a gwlad Canaan o achos y newyn.
14 Casglodd Joseff bob darn o arian a oedd yn yr Aifft a Chanaan yn dâl am yr ŷd a brynwyd, a daeth â'r arian i dŷ Pharo.
15 Pan wariwyd yr holl arian yn yr Aifft a Chanaan, daeth yr holl Eifftiaid at Joseff a dweud, “Rho inni fwyd. Pam y byddwn farw o flaen dy lygaid? Y mae ein harian wedi darfod yn llwyr.”
16 Atebodd Joseff, “Os darfu'r arian, dewch â'ch anifeiliaid, a rhoddaf fwyd i chwi yn gyfnewid amdanynt.”
17 Felly daethant â'u hanifeiliaid at Joseff. Rhoddodd yntau fwyd iddynt yn gyfnewid am y meirch, y defaid, y gwartheg a'r asynnod. Cynhaliodd hwy dros y flwyddyn honno trwy gyfnewid bwyd am eu holl anifeiliaid.
18 Pan ddaeth y flwyddyn i ben, daethant ato y flwyddyn ddilynol a dweud, “Ni chelwn ddim oddi wrth ein harglwydd: y mae ein harian wedi darfod, aeth ein hanifeiliaid hefyd yn eiddo i'n harglwydd, ac nid oes yn aros i'n harglwydd ond ein cyrff a'n tir.