29 y maent yn ymuno â'u brodyr, eu harweinwyr, i gymryd llw a gwneud adduned i fyw yn ôl cyfraith Dduw, a roddwyd trwy Moses gwas Duw, a chadw ac ufuddhau i holl orchmynion, barnau a deddfau yr ARGLWYDD ein Iôr.
30 “Ni roddwn ein merched yn wragedd i bobl y wlad na chymryd eu merched hwy yn wragedd i'n meibion.
31 Ac os daw pobl y wlad â nwyddau neu rawn o unrhyw fath i'w gwerthu ar y dydd Saboth, ni dderbyniwn ddim ganddynt ar y Saboth nac ar ddydd gŵyl. Yn y seithfed flwyddyn fe rown orffwys i'r tir, a dileu pob dyled.
32 Ac yr ydym yn ymrwymo i roi traean o sicl bob blwyddyn at waith tŷ ein Duw,
33 ar gyfer y bara gosod, y bwydoffrwm a'r poethoffrwm beunyddiol, y Sabothau, y newydd-loerau, y gwyliau arbennig, y pethau cysegredig a'r offrymau dros bechod i wneud iawn dros Israel, ac at holl waith tŷ ein Duw.
34 Ac yr ydym ni, yr offeiriaid, y Lefiaid a'r bobl, wedi bwrw coelbrennau ynglŷn â chario coed yr offrwm i dŷ ein Duw gan bob teulu yn ei dro, ar amseroedd penodol bob blwyddyn, i'w llosgi ar allor yr ARGLWYDD ein Duw, fel y mae'n ysgrifenedig yn y gyfraith.
35 Ac yr ydym wedi trefnu i ddod â blaenffrwyth ein tir, a blaenffrwyth pob pren ffrwythau, bob blwyddyn i dŷ'r ARGLWYDD;