Nehemeia 7 BCND

1 Yna, wedi i'r mur gael ei ailgodi, ac imi osod y dorau, ac i'r porthorion a'r cantorion a'r Lefiaid gael eu penodi,

2 rhoddais Jerwsalem yng ngofal Hanani fy mrawd a Hananeia arolygwr y palas, oherwydd yr oedd ef yn ddyn gonest ac yn parchu Duw'n fwy na'r mwyafrif.

3 A dywedais wrthynt, “Nid yw pyrth Jerwsalem i fod ar agor nes bod yr haul wedi codi; a chyn iddo fachlud rhaid cau'r dorau a'u cloi. Trefnwch drigolion Jerwsalem yn wylwyr, pob un i wylio yn ei dro, a phob un yn ymyl ei dŷ ei hun.”

4 Yr oedd y ddinas yn fawr ac yn eang, ond ychydig o bobl oedd ynddi, a'r tai heb eu hailgodi.

Rhestr y Rhai a Ddychwelodd o'r Gaethglud

5 Rhoddodd Duw yn fy meddwl i gasglu ynghyd y pendefigion, y swyddogion a'r bobl i'w cofrestru. Deuthum o hyd i lyfr achau y rhai a ddaeth yn gyntaf o'r gaethglud, a dyma oedd wedi ei ysgrifennu ynddo:

6 Dyma bobl y dalaith a ddychwelodd o gaethiwed, o'r gaethglud a ddygwyd gan Nebuchadnesar brenin Babilon, ac a ddaeth yn ôl i Jerwsalem ac i Jwda, pob un i'w dref ei hun.

7 Gyda Sorobabel yr oedd Jesua, Nehemeia, Asareia, Raameia, Nahmani, Mordecai, Bilsan, Mispereth, Bigfai, Nehum a Baana.

8 Rhestr teuluoedd pobl Israel: teulu Paros, dwy fil un cant saith deg a dau;

9 teulu Seffateia, tri chant saith deg a dau;

10 teulu Ara, chwe chant pum deg a dau;

11 teulu Pahath-moab, hynny yw teuluoedd Jesua a Joab, dwy fil wyth gant un deg ac wyth;

12 teulu Elam, mil dau gant pum deg a phedwar;

13 teulu Sattu, wyth gant pedwar deg a phump;

14 teulu Saccai, saith gant chwe deg;

15 teulu Binnui, chwe chant pedwar deg ac wyth;

16 teulu Bebai, chwe chant dau ddeg ac wyth;

17 teulu Asgad, dwy fil tri chant dau ddeg a dau;

18 teulu Adonicam, chwe chant chwe deg a saith;

19 teulu Bigfai, dwy fil chwe deg a saith;

20 teulu Adin, chwe chant pum deg a phump;

21 teulu Ater, hynny yw Heseceia, naw deg ac wyth;

22 teulu Hasum, tri chant dau ddeg ac wyth;

23 teulu Besai, tri chant dau ddeg a phedwar;

24 teulu Hariff, cant a deuddeg;

25 teulu Gibeon, naw deg a phump.

26 Gwŷr Bethlehem a Netoffa, cant wyth deg ac wyth;

27 gwŷr Anathoth, cant dau ddeg ac wyth;

28 gwŷr Beth-asmafeth, pedwar deg a dau;

29 gwŷr Ciriath-jearim a Ceffira a Beeroth, saith gant pedwar deg a thri;

30 gwŷr Rama a Geba, chwe chant dau ddeg ac un;

31 gwŷr Michmas, cant dau ddeg a dau;

32 gwŷr Bethel ac Ai, cant dau ddeg a thri;

33 gwŷr y Nebo arall, pum deg a dau.

34 Teulu'r Elam arall, mil dau gant pum deg a phedwar;

35 teulu Harim, tri chant dau ddeg;

36 teulu Jericho, tri chant pedwar deg a phump;

37 teulu Lod a Hadid ac Ono, saith gant dau ddeg ac un;

38 teulu Senaa, tair mil naw cant tri deg.

39 Yr offeiriaid: teulu Jedeia, o linach Jesua, naw cant saith deg a thri;

40 teulu Immer, mil pum deg a dau;

41 teulu Pasur, mil dau gant pedwar deg a saith;

42 teulu Harim, mil un deg a saith.

43 Y Lefiaid: teulu Jesua, hynny yw Cadmiel, o linach Hodefa, saith deg a phedwar.

44 Y cantorion: teulu Asaff, cant pedwar deg ac wyth.

45 Y porthorion: teuluoedd Salum, Ater, Talmon, Accub, Hatita a Sobai, cant tri deg ac wyth.

46 Gweision y deml: teuluoedd Siha, Hasuffa, Tabbaoth,

47 Ceros, Sïa, Padon,

48 Lebana, Hagaba, Salmai,

49 Hanan, Gidel, Gahar,

50 Reaia, Resin, Necoda,

51 Gassam, Ussa, Pasea,

52 Besai, Meunim, Neffisesim,

53 Bacbuc, Hacuffa, Harhur,

54 Baslith, Mehida, Harsa,

55 Barcos, Sisera, Tama,

56 Neseia a Hatiffa.

57 Disgynyddion gweision Solomon: teuluoedd Sotai, Soffereth, Perida,

58 Jala, Darcon, Gidel,

59 Seffateia, Hattil, Pochereth o Sebaim, ac Amon.

60 Cyfanswm gweision y deml a disgynyddion gweision Solomon oedd tri chant naw deg a dau.

61 Daeth y rhai canlynol i fyny o Tel-mela, Tel-harsa, Cerub, Adon ac Immer, ond ni fedrent brofi mai o Israel yr oedd eu llinach a'u tras:

62 teuluoedd Delaia, Tobeia a Necoda, chwe chant pedwar deg a dau.

63 Ac o blith yr offeiriaid: teuluoedd Hobaia, Cos a'r Barsilai a briododd un o ferched Barsilai o Gilead a chymryd ei enw.

64 Chwiliodd y rhain am gofnod o'u hachau, ond methu ei gael; felly cawsant eu hatal o'r offeiriadaeth,

65 a gwaharddodd y llywodraethwr iddynt fwyta'r pethau mwyaf cysegredig nes y ceid offeiriad i ymgynghori â'r Wrim a'r Twmim.

66 Nifer y fintai gyfan oedd pedwar deg dwy o filoedd tri chant chwe deg,

67 heblaw eu gweision a'u morynion a oedd yn saith mil tri chant tri deg a saith. Yr oedd ganddynt hefyd ddau gant pedwar deg a phump o gantorion a chantoresau,

68 saith gant tri deg a chwech o geffylau, dau gant pedwar deg a phump o fulod,

69 pedwar cant tri deg a phump o gamelod, a chwe mil saith gant dau ddeg o asynnod.

70 Cyfrannodd rhai o'r pennau-teuluoedd tuag at y gwaith. Rhoddodd y llywodraethwr i'r drysorfa fil o ddracmonau aur, pum deg o gostrelau a phum cant tri deg o wisgoedd offeiriadol.

71 Rhoddodd rhai o'r pennau-teuluoedd i drysorfa'r gwaith ugain mil o ddracmonau aur a dwy fil dau gant o finâu o arian.

72 A'r hyn a roddodd y gweddill o'r bobl oedd ugain mil o ddracmonau aur, a dwy fil o finâu o arian, a chwe deg a saith o wisgoedd offeiriadol.

73 Cartrefodd yr offeiriaid a'r Lefiaid yn Jerwsalem; yr oedd y porthorion a'r cantorion a rhai o'r bobl a gweision y deml yn byw yn y cyffiniau, a'r Israeliaid eraill yn byw yn eu trefi eu hunain.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13