1 Ar y pedwerydd ar hugain o'r mis hwn ymgasglodd yr Israeliaid i ymprydio, gan wisgo sachliain a rhoi pridd ar eu pennau.
2 Ymneilltuodd y rhai oedd o linach Israel oddi wrth bob dieithryn, a sefyll a chyffesu eu pechodau a chamweddau eu hynafiaid.
3 Buont yn sefyll yn eu lle am deirawr yn darllen o lyfr cyfraith yr ARGLWYDD eu Duw, ac am deirawr arall yn cyffesu ac yn ymgrymu i'r ARGLWYDD eu Duw.
4 Safodd Jesua, Bani, Cadmiel, Sebaneia, Bunni, Serebeia, Bani a Chenani ar lwyfan y Lefiaid, a galw'n uchel ar yr ARGLWYDD eu Duw.
5 A dywedodd y Lefiaid, hynny yw Jesua, Cadmiel, Bani, Hasabneia, Serebeia, Hodeia, Sebaneia a Pethaheia, “Codwch, bendithiwch yr ARGLWYDD eich Duw o dragwyddoldeb i dragwyddoldeb:“Bendithier dy enw gogoneddussy'n ddyrchafedig goruwch pob bendith a moliant.
6 Ti yn unig wyt ARGLWYDD.Ti a wnaeth y nefoedd,nef y nefoedd a'i holl luoedd,y ddaear a'r cwbl sydd arni,y moroedd a'r hyn oll sydd ynddynt;ti sy'n rhoi bwyd iddynt i gyd,ac i ti yr ymgryma llu'r nefoedd.
7 Ti yw yr ARGLWYDD Dduw,ti a ddewisodd Abrama'i dywys o Ur y Caldeaid,a rhoi iddo'r enw Abraham;
8 fe'i cefaist yn ffyddlon i ti,a gwnaethost gyfamod ag ef,i roi i'w ddisgynyddion wlad y Canaaneaid,yr Hethiaid, yr Amoriaid,y Peresiaid, y Jebusiaid a'r Girgasiaid.Ac fe gedwaist dy air,oherwydd cyfiawn wyt ti.
9 “Fe welaist gystudd ein pobl yn yr Aifft,a gwrandewaist ar eu cri wrth y Môr Coch.
10 Gwnaethost arwyddion a rhyfeddodau yn erbyn Pharoa'i holl weision a holl drigolion ei wlad,am dy fod yn gwybod iddynt ymfalchïo yn eu herbyn;a gwnaethost enw i ti dy hun sy'n parhau hyd heddiw.
11 Holltaist y môr o'u blaen,ac aethant drwyddo ar dir sych.Teflaist eu herlidwyr i'r dyfnder,fel carreg i ddyfroedd geirwon.
12 Arweiniaist hwy â cholofn gwmwl liw dydd,a liw nos â cholofn dân,er mwyn goleuo'r ffordd a dramwyent.
13 Daethost i lawr ar Fynydd Sinai,siaredaist â hwy o'r nefoedd.Rhoddaist iddynt farnau cyfiawna chyfreithiau gwira deddfau a gorchmynion da.
14 Dywedaist wrthynt am dy Saboth sanctaidd,a thrwy Moses dy wasrhoddaist iddynt orchmynion a deddfau a chyfraith.
15 Yn eu newyn rhoddaist iddynt fara o'r nefoedd,a thynnu dŵr o'r graig iddynt yn eu syched.Dywedaist wrthynt am fynd i feddiannu'r wlady tyngaist ti i'w rhoi iddynt.
16 “Ond aethant hwy, ein hynafiaid, yn falch ac yn ystyfnig,a gwrthod gwrando ar dy orchmynion.
17 Gwrthodasant wrando,ac nid oeddent yn cofio dy ryfeddodaua wnaethost iddynt.Aethant yn ystyfnig a dewis arweinydder mwyn dychwelyd i'w caethiwed yn yr Aifft.Ond yr wyt ti'n Dduw sy'n maddau,yn raslon a thrugarog,araf i ddigio a llawn ffyddlondeb,ac ni wrthodaist hwy.
18 Hefyd, pan wnaethant lo tawdd a dweud,‘Dyma dy Dduw a'th ddygodd i fyny o'r Aifft’,a chablu'n ddirfawr,
19 yn dy drugaredd fawr ni chefnaist arnynt yn yr anialwch.Ni chiliodd oddi wrthynt y golofn gwmwla'u tywysai ar hyd y ffordd liw dydd,na'r golofn dân liw nos,a oleuai'r ffordd a dramwyent.
20 Rhoddaist dy ysbryd daionus i'w cyfarwyddo;nid ateliaist dy fanna rhagddynt;rhoddaist iddynt ddŵr i dorri eu syched.
21 Am ddeugain mlynedd buost yn eu cynnal yn yr anialwchheb fod arnynt eisiau dim;nid oedd eu dillad yn treuliona'u traed yn chwyddo.
22 “Rhoddaist iddynt deyrnasoedd a chenhedloedd,a rhoi cyfran iddynt ymhob congl.Cawsant feddiant o wlad Sihon brenin Hesbona gwlad Og brenin Basan.
23 Gwnaethost eu plant mor niferus â sêr y nefoedd,a'u harwain i'r wlad y dywedaist wrth eu hynafiaidam fynd iddi i'w meddiannu.
24 Felly fe aeth eu plant a meddiannu'r wlad;darostyngaist tithau drigolion y wlad,y Canaaneaid, o'u blaen,a rhoi yn eu llaw eu brenhinoedd a phobl y wlad,iddynt wneud fel y mynnent â hwy.
25 Enillasant ddinasoedd cedyrn a thir ffrwythlon,a meddiannu tai yn llawn o bethau daionus,pydewau wedi eu cloddio,gwinllannoedd a gerddi olewydd a llawer o goed ffrwythau;bwytasant a chael eu digoni a mynd yn raenus,a mwynhau dy ddaioni mawr.
26 Ond fe aethant yn anufudda gwrthryfela yn dy erbyn.Troesant eu cefnau ar dy gyfraith,a lladd dy broffwydioedd wedi eu rhybuddio i ddychwelyd atat,a chablu'n ddirfawr.
27 Felly rhoddaist hwy yn llaw eu gorthrymwyr,a chawsant eu gorthrymu.Yn eu cyfyngder gwaeddasant arnat,ac fe wrandewaist tithau o'r nefoedd;yn dy drugaredd fawr rhoddaist achubwyr iddynti'w gwaredu o law eu gorthrymwyr.
28 Ond pan gawsant lonydd,dechreusant eto wneud drwg yn dy olwg.Gadewaist hwy i'w gelynion,a chawsant eu mathru.Unwaith eto galwasant arnat,a gwrandewaist tithau o'r nefoedd,a'u hachub lawer gwaith yn dy drugaredd.
29 Fe'u rhybuddiaist i ddychwelyd at dy gyfraith,ond aethant yn falcha gwrthod ufuddhau i'th orchmynion;pechasant yn erbyn dy farnausydd yn rhoi bywyd i'r un sy'n eu cadw.Troesant eu cefnau'n ystyfnig,a mynd yn wargaled a gwrthod ufuddhau.
30 Buost yn amyneddgar â hwyam flynyddoedd lawer,a'u rhybuddio â'th ysbrydtrwy dy broffwydi,ond ni wrandawsant;am hynny rhoddaist hwy yn nwylo pobloedd estron.
31 Ond yn dy drugaredd fawrni ddifethaist hwy yn llwyr na'u gadael,oherwydd Duw graslon a thrugarog wyt ti.
32 “Yn awr, O ein Duw,y Duw mawr, cryf ac ofnadwy,sy'n cadw cyfamod a thrugaredd,paid â diystyru'r holl drybini a ddaeth arnom—ar ein brenhinoedd a'n tywysogion,ein hoffeiriaid a'n proffwydi a'n hynafiaid,ac ar dy holl bobl—o gyfnod brenhinoedd Asyria hyd y dydd hwn.
33 Buost ti yn gyfiawnyn yr hyn oll a ddigwyddodd i ni;buost ti yn ffyddlon,ond buom ni yn ddrwg.
34 Ni chadwodd ein brenhinoedd na'n tywysogion,ein hoffeiriaid na'n hynafiaid, dy gyfraith;ni wrandawsant ar dy orchmynion,nac ar y rhybuddion a roddaist iddynt.
35 Hyd yn oed yn eu teyrnas eu hunainynghanol y daioni mawr a ddangosaist tuag atynt,yn y wlad eang a thoreithiog a roddaist iddynt,gwrthodasant dy wasanaethua throi oddi wrth eu drwgweithredoedd.
36 Dyma ni heddiw yn gaethweision,caethweision yn y wlad a roddaist i'n hynafiaidi fwyta'i ffrwyth a'i braster.
37 Y mae ei holl gynnyrch yn mynd i'r brenhinoedda osodaist arnom am ein pechodau.Y maent yn rheoli ein cyrff,ac yn gwneud fel y mynnant â'n hanifeiliaid;yr ydym ni mewn helbul mawr.”
38 Oherwydd hyn oll yr ydym yn gwneud ymrwymiad ysgrifenedig, ac y mae ein tywysogion, ein Lefiaid a'n hoffeiriaid, yn ei selio.