36 a'i frodyr Semaia, Asarael, Milalai, Gilalai, Maai, Nethaneel, Jwda, a Hanani, ag offer cerdd Dafydd gŵr Duw, ac Esra'r ysgrifennydd o'u blaen.
37 Aethant heibio i Borth y Ffynnon ac i fyny grisiau Dinas Dafydd, wrth yr esgyniad i'r mur uwchben tŷ Dafydd, ac at Borth y Dŵr sydd yn y dwyrain.
38 Aeth y côr arall oedd yn rhoi diolch i'r chwith ac euthum innau gyda hanner y bobl ar ei ôl, ar hyd y mur o Dŵr y Ffyrnau at y Mur Llydan,
39 dros Borth Effraim a'r Hen Borth a Phorth y Pysgod, a heibio i Dŵr Hananel a Thŵr y Cant at Borth y Defaid, a sefyll ym Mhorth y Wyliadwriaeth.
40 Aeth y ddau gôr oedd yn rhoi diolch i mewn i dŷ Dduw, ac yna euthum innau, a hanner yr arweinwyr gyda mi,
41 a'r offeiriaid, Eliacim, Maaseia, Miniamin, Michaia, Elioenai, Sechareia, Hananeia, gyda'r trwmpedau;
42 a Maaseia, Semaia, Eleasar, Ussi, Jehohanan, Malcheia, Elam ac Esra. Ac fe ganodd y cantorion o dan arweiniad Jasraheia.