12 Yna sylweddolais nad Duw oedd wedi ei anfon, ond ei fod wedi proffwydo fel hyn yn ein herbyn am fod Tobeia a Sanbalat wedi ei lwgrwobrwyo.
13 Yr oedd wedi cael ei dalu i godi ofn arnaf a pheri imi bechu trwy wneud hyn; yna fe gaent esgus i roi enw drwg imi, a'm gwaradwyddo.
14 Fy Nuw, cofia Tobeia a Sanbalat am iddynt wneud hyn, a hefyd Noadeia y broffwydes a'r proffwydi eraill oedd am fy nychryn.
15 Gorffennwyd y mur mewn deuddeg diwrnod a deugain, ar y pumed ar hugain o Elul.
16 Pan glywodd ein holl elynion, a phan welodd yr holl genhedloedd o'n hamgylch, yr oedd y peth yn rhyfeddol yn eu golwg, a daethant i ddeall mai trwy gymorth ein Duw y cafodd y gwaith hwn ei wneud.
17 Yn ystod y cyfnod hwn anfonodd pendefigion Jwda nifer o lythyrau at Tobeia, a daeth llythyrau oddi wrth Tobeia atynt hwythau;
18 oherwydd yr oedd llawer yn Jwda mewn cynghrair ag ef am ei fod yn fab-yng-nghyfraith i Sechaneia fab Ara, a'i fab Jehohanan wedi priodi merch Mesulam fab Berecheia.