8 Anfonais air yn ôl ato a dweud, “Nid yw'r hyn a ddywedi di yn wir; ti dy hun sydd wedi ei ddychmygu.”
9 Yr oeddent oll yn ceisio'n dychryn, gan dybio y byddem yn digalonni, ac na fyddai'r gwaith yn cael ei orffen. Ond yn awr cryfha fi!
10 Pan euthum i dŷ Semaia fab Delaia, fab Mehetabel, oedd wedi ei gaethiwo i'w gartref, dywedodd wrthyf,“Gad i ni gyfarfod yn nhŷ Dduw,y tu mewn i'r cysegr,a chau drysau'r deml,oherwydd y maent yn dod i'th ladd,yn dod i'th ladd liw nos.”
11 Atebais innau, “A ddylai dyn fel fi ffoi? A yw un fel fi i fynd i mewn i'r deml er mwyn achub ei fywyd? Nid af i mewn.”
12 Yna sylweddolais nad Duw oedd wedi ei anfon, ond ei fod wedi proffwydo fel hyn yn ein herbyn am fod Tobeia a Sanbalat wedi ei lwgrwobrwyo.
13 Yr oedd wedi cael ei dalu i godi ofn arnaf a pheri imi bechu trwy wneud hyn; yna fe gaent esgus i roi enw drwg imi, a'm gwaradwyddo.
14 Fy Nuw, cofia Tobeia a Sanbalat am iddynt wneud hyn, a hefyd Noadeia y broffwydes a'r proffwydi eraill oedd am fy nychryn.