1 Yna gwelais angel nerthol arall yn disgyn o'r nef wedi ei wisgo â chwmwl, ac enfys ar ei ben. Yr oedd ei wyneb fel yr haul, a'i goesau fel colofnau o dân.
2 Yr oedd yn dal yn ei law sgrôl fechan wedi ei hagor. Gosododd ei droed dde ar y môr a'r un chwith ar y tir.
3 Yna gwaeddodd â llais uchel fel llew yn rhuo; a phan waeddodd, cododd y saith daran eu llef hwythau.
4 Ac wedi i'r saith daran lefaru, yr oeddwn ar fin ysgrifennu; ond clywais lais o'r nef yn dweud, “Gosod y pethau a lefarodd y saith daran dan sêl; paid â'u hysgrifennu.”
5 A dyma'r angel a welais yn sefyll ar y môr ac ar y tiryn codi ei law dde i'r nef
6 ac yn tyngu yn enw'r hwn sydd yn byw byth bythoedd,yr hwn a greodd y nef a'r pethau sydd ynddi, y tir a'r pethau sydd ynddo, a'r môr a'r pethau sydd ynddo. Dywedodd: “Ni bydd oedi mwy;
7 ond yn nyddiau sain yr utgorn y mae'r seithfed angel i'w seinio, bydd bwriad dirgel Duw wedi ei ddwyn i ben, yn unol â'r newyddion da a gyhoeddodd i'w weision, y proffwydi.”
8 Yna'r llais a glywais o'r nef, fe'i clywais eto'n llefaru wrthyf gan ddweud, “Dos a chymer y sgrôl sy'n agored yn llaw'r angel sy'n sefyll ar y môr ac ar y tir.”
9 Euthum at yr angel a dweud wrtho am roi'r sgrôl fechan imi, ac atebodd fi: “Cymer a bwyta hi; fe fydd hi'n chwerw i'th gylla, ond yn felys fel mêl yn dy enau.”
10 Cymerais y sgrôl fechan o law'r angel a'i bwyta hi, ac yr oedd yn felys fel mêl yn fy ngenau; ond wedi i mi ei bwyta aeth fy nghylla yn chwerw.
11 A dywedwyd wrthyf, “Rhaid iti broffwydo eto ynghylch pobloedd a chenhedloedd ac ieithoedd a brenhinoedd lawer.”