1 Ar ôl hyn gwelais angel arall yn disgyn o'r nef, a chanddo awdurdod mawr; a goleuwyd y ddaear gan ei ogoniant ef.
2 Gwaeddodd â llais cryf:“Syrthiodd, syrthiodd Babilon fawr,aeth yn drigfa cythreuliaid,yn gyrchfa pob ysbryd aflan,yn gyrchfa pob aderyn aflan,ac yn gyrchfa pob bwystfil aflan ac atgas;
3 oherwydd o win llid ei phuteindray mae'r holl genhedloedd wedi yfed.Puteiniodd brenhinoedd y ddaear gyda hi,ac ymgyfoethogodd masnachwyr y ddaear ar ddigonedd ei moethusrwydd hi.”
4 Yna clywais lais arall o'r nef yn dweud:“Dewch allan ohoni, fy mhobl,rhag i chwi gyfranogi o'i phechodau,ac o'i phlâudderbyn rhan;
5 oherwydd pentyrrwyd ei phechodau hyd y nef,a chadwodd Duw ei hanghyfiawnderau hi ar gof.
6 Talwch y pwyth yn ôl iddi,talwch hi'n ddyblyg am ei gweithredoedd;dyblwch iddi chwerwder y cwpan a gymysgodd hi;
7 yn ôl mesur ei rhwysg a'i moethusrwydd,rhowch iddi boenedigaeth a galar.Oherwydd yn ei chalon y mae'n dweud,‘Rwy'n eistedd yn frenhines,nid gweddw wyf,a galar ni welaf byth.’
8 Am hyn daw ei phlâu arni o fewn un dydd,marwolaeth, galar a newyn,a llosgir hi'n ulw â thân;oblegid nerthol yw'r Arglwydd Dduw, ei barnwr hi.”
9 Bydd brenhinoedd y ddaear, a buteiniodd gyda hi a byw'n foethus, yn wylo a galaru amdani, pan welant fwg ei llosgi hi.
10 Safant o hirbell gan ofn ei phoenedigaeth, a dweud:“Gwae, gwae'r ddinas fawr,Babilon, y ddinas nerthol,oherwydd mewn un awr daeth arnat dy farn!”
11 Bydd masnachwyr y ddaear yn wylo a galaru amdani, oherwydd nid oes neb mwyach yn prynu eu nwyddau,
12 eu llwythi o aur ac arian, o emau gwerthfawr a pherlau, o liain main a sidan, o borffor ac ysgarlad; eu llwythi o bob pren persawrus ac o bob gwaith ifori a gwaith pren drudfawr neu bres neu haearn neu farmor;
13 eu llwythi o sinamon, sbeis a pherlysiau, o fyrr a thus, o win ac olew, o flawd mân a gwenith, o wartheg a defaid, o geffylau a cherbydau, o gaethweision a bywydau pobl.
14 Dywedant wrthi:“Y mae'r ffrwyth y chwenychodd dy enaid amdanowedi mynd oddi wrthyt,a'r holl wychder a'r ysblander oedd itiwedi diflannu oddi wrthyt,byth mwy i'w canfod!”
15 Bydd masnachwyr y nwyddau hyn, a enillodd eu cyfoeth drwyddi hi, yn sefyll o hirbell gan ofn ei phoenedigaeth, yn wylo a galaru
16 a dweud:“Gwae, gwae'r ddinas fawr,sydd wedi ei gwisgo â lliain main,â phorffor ac ysgarlad,a'i thecáu â thlysau aur,â gemau gwerthfawr a pherlau,
17 oherwydd diffeithio cymaint o gyfoeth mewn un awr!”Yna cafwyd pob capten llong a phob teithiwr ar fôr, llongwyr a phawb sydd â'u gwaith ar y môr, yn sefyll o hirbell
18 ac yn gweiddi wrth weld mwg ei llosgi hi: “A fu dinas debyg i'r ddinas fawr?”
19 Bwriasant lwch ar eu pennau a gweiddi mewn dagrau a galar:“Gwae, gwae'r ddinas fawr,lle'r enillodd pawb a chanddynt longau ar y môrgyfoeth trwy ei golud hi,oherwydd ei diffeithio mewn un awr!”
20 O nef, gorfoledda drosti,a chwithau'r saint, a'r apostolion a'r proffwydi,oherwydd y farn a roes hi arnoch chwi a roes Duw arni hi.
21 Cododd angel nerthol garreg debyg i faen melin mawr a'i thaflu i'r môr a dweud:“Yr un mor ffyrnig yr hyrddir i'r ddaearFabilon, y ddinas fawr,ac nis ceir byth mwy.
22 A sain telynorion a cherddoriona rhai'n canu ffliwt ac utgorn,nis clywir ynot byth mwy;a phob un sy'n dilyn unrhyw grefft,nis ceir ynot byth mwy;a sŵn maen y felin,nis clywir ynot byth mwy;
23 a golau lamp,nis gwelir ynot byth mwy;a llais priodfab a phriodferch,nis clywir ynot byth mwy.Mawrion y ddaear oedd dy fasnachwyr di,a thwyllwyd yr holl genhedloedd gan dy ddewiniaeth.