3 Yna gwelwyd arwydd arall yn y nef, draig fflamgoch fawr, a chanddi saith ben a deg corn, ac ar ei phennau saith diadem.
4 Ysgubodd ei chynffon draean o sêr y nef a'u bwrw i'r ddaear. Safodd y ddraig o flaen y wraig oedd ar fin esgor, er mwyn llyncu ei phlentyn ar ei eni.
5 Esgorodd hi ar blentyn gwryw, hwnnw sydd i lywodraethu'r holl genhedloedd â gwialen haearn; ond cipiwyd ei phlentyn at Dduw a'i orsedd ef.
6 Ffodd y wraig i'r anialwch; yno y mae ganddi le wedi ei baratoi gan Dduw, i'w chynnal ynddo am ddeuddeg cant a thrigain o ddyddiau.
7 Yna bu rhyfel yn y nef, Mihangel a'i angylion yn rhyfela yn erbyn y ddraig. Rhyfelodd y ddraig a'i hangylion hithau,
8 ond ni orchfygodd, a bellach nid oedd lle iddynt yn y nef.
9 Fe'i bwriwyd hi, y ddraig fawr, yr hen sarff, a elwir Diafol a Satan, yr un sy'n twyllo'r holl fyd, fe'i bwriwyd i'r ddaear a'i hangylion gyda hi.