25 ond yn unig glynwch wrth yr hyn sydd gennych, hyd nes i mi ddod.
26 I'r sawl sy'n gorchfygu ac yn dal ati i wneud fy ngweithredoedd hyd y diwedd,“rhof iddo awdurdod ar y cenhedloedd—
27 a bydd yn eu llywodraethu hwy â gwialen haearn;malurir hwy fel llestri pridd—
28 “fel y derbyniais innau hefyd awdurdod gan fy Nhad. Rhof iddo hefyd seren y bore.
29 Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed beth y mae'r Ysbryd yn ei ddweud wrth yr eglwysi.”