1 Dyma restr achau Iesu Grist, Mab Dafydd, mab Abraham.
2 Yr oedd Abraham yn dad i Isaac, Isaac yn dad i Jacob, a Jacob yn dad i Jwda a'i frodyr.
3 Yr oedd Jwda yn dad i Peres a Sera, a Tamar yn fam iddynt; yr oedd Peres yn dad i Hesron, Hesron i Ram,
4 Ram i Amminadab, Amminadab i Nahson, Nahson i Salmon;
5 yr oedd Salmon yn dad i Boas, a Rahab yn fam iddo, Boas yn dad i Obed, a Ruth yn fam iddo, Obed yn dad i Jesse,
6 a Jesse yn dad i'r Brenin Dafydd.Yr oedd Dafydd yn dad i Solomon, a gwraig Ureia yn fam iddo,
7 yr oedd Solomon yn dad i Rehoboam, Rehoboam yn dad i Abeia, ac Abeia'n dad i Asa.
8 Yr oedd Asa'n dad i Jehosaffat, Jehosaffat i Joram, Joram i Usseia,
9 Usseia i Jotham, Jotham i Ahas, Ahas i Heseceia,
10 Heseceia i Manasse, Manasse i Amon, ac Amon i Joseia.
11 Yr oedd Joseia yn dad i Jechoneia a'i frodyr yng nghyfnod y gaethglud i Fabilon.
12 Ar ôl y gaethglud i Fabilon, yr oedd Jechoneia yn dad i Salathiel, Salathiel i Sorobabel,
13 Sorobabel i Abiwd, Abiwd i Eliacim, Eliacim i Asor,
14 Asor i Sadoc, Sadoc i Achim, Achim i Eliwd,
15 Eliwd i Eleasar, Eleasar i Mathan, a Mathan i Jacob.
16 Yr oedd Jacob yn dad i Joseff, gŵr Mair, a hi a roddodd enedigaeth i Iesu, a elwid y Meseia.
17 Felly, pedair ar ddeg yw cyfanrif y cenedlaethau o Abraham hyd Ddafydd, a phedair ar ddeg o Ddafydd hyd y gaethglud i Fabilon, a phedair ar ddeg hefyd o'r gaethglud i Fabilon hyd y Meseia.
18 Fel hyn y bu genedigaeth Iesu Grist. Pan oedd Mair ei fam wedi ei dyweddïo i Joseff, cyn iddynt ddod at ei gilydd fe gafwyd ei bod hi'n feichiog o'r Ysbryd Glân.
19 A chan ei fod yn ddyn cyfiawn, ond heb ddymuno ei chywilyddio'n gyhoeddus, penderfynodd Joseff, ei gŵr, ei gollwng ymaith yn ddirgel.
20 Ond wedi iddo gynllunio felly, dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos iddo mewn breuddwyd, a dweud, “Joseff fab Dafydd, paid ag ofni cymryd Mair yn wraig i ti, oherwydd y mae'r hyn a genhedlwyd ynddi yn deillio o'r Ysbryd Glân.
21 Bydd yn esgor ar fab, a gelwi ef Iesu, am mai ef a wareda ei bobl oddi wrth eu pechodau.”
22 A digwyddodd hyn oll fel y cyflawnid y gair a lefarwyd gan yr Arglwydd trwy'r proffwyd:
23 “Wele, bydd y wyryf yn beichiogi, ac yn esgor ar fab,a gelwir ef Immanuel”,hynny yw, o'i gyfieithu, “Y mae Duw gyda ni”.
24 A phan ddeffrôdd Joseff o'i gwsg, gwnaeth fel yr oedd angel yr Arglwydd wedi gorchymyn, a chymryd Mair yn wraig iddo.
25 Ond ni chafodd gyfathrach â hi hyd nes iddi esgor ar fab; a galwodd ef Iesu.