Mathew 28 BCND

Atgyfodiad Iesu

1 Ar ôl y Saboth, a dydd cyntaf yr wythnos ar wawrio, daeth Mair Magdalen a'r Fair arall i edrych ar y bedd.

2 A bu daeargryn mawr; daeth angel yr Arglwydd i lawr o'r nef, ac aeth at y maen a'i dreiglo i ffwrdd ac eistedd arno.

3 Yr oedd ei wedd fel mellten a'i wisg yn wyn fel eira.

4 Yn eu dychryn o'i weld, crynodd y gwarchodwyr, ac aethant fel rhai marw.

5 Ond llefarodd yr angel wrth y gwragedd: “Peidiwch chwi ag ofni,” meddai. “Gwn mai ceisio Iesu, a groeshoeliwyd, yr ydych.

6 Nid yw ef yma, oherwydd y mae wedi ei gyfodi, fel y dywedodd y byddai; dewch i weld y man lle y bu'n gorwedd.

7 Ac yna ewch ar frys i ddweud wrth ei ddisgyblion, ‘Y mae wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw, ac yn awr y mae'n mynd o'ch blaen chwi i Galilea; yno y gwelwch ef.’ Dyna fy neges i chwi.”

8 Aethant ymaith ar frys oddi wrth y bedd, mewn ofn a llawenydd mawr, a rhedeg i ddweud wrth ei ddisgyblion.

9 A dyma Iesu'n cyfarfod â hwy a dweud, “Henffych well!” Aethant ato a gafael yn ei draed a'i addoli.

10 Yna meddai Iesu wrthynt, “Peidiwch ag ofni; ewch a dywedwch wrth fy mrodyr am fynd i Galilea, ac yno fe'm gwelant i.”

Adroddiad y Gwarchodlu

11 Tra oedd y gwragedd ar eu ffordd, dyma rai o'r gwarchodlu yn mynd i'r ddinas ac yn dweud wrth y prif offeiriaid am yr holl bethau a ddigwyddodd.

12 Ac wedi iddynt ymgynnull gyda'r henuriaid ac ymgynghori, rhoesant swm sylweddol o arian i'r milwyr,

13 gan ddweud wrthynt, “Dywedwch fod ei ddisgyblion ef wedi dod yn y nos, a'i ladrata tra oeddech chwi'n cysgu.

14 Ac os daw hyn i glyw y rhaglaw, fe'i perswadiwn ni ef a sicrhau na fydd raid ichwi bryderu.”

15 Cymerodd y milwyr yr arian a gwneud fel y cawsant eu cyfarwyddo. Taenwyd y stori hon ar led ymysg Iddewon hyd y dydd heddiw.

Rhoi Comisiwn i'r Disgyblion

16 Aeth yr un disgybl ar ddeg i Galilea i'r mynydd lle y trefnodd Iesu iddynt fod;

17 a phan welsant ef addolasant ef, er bod rhai yn amau.

18 Daeth Iesu atynt a llefaru wrthynt: “Rhoddwyd i mi,” meddai, “bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear.

19 Ewch, gan hynny, a gwnewch ddisgyblion o'r holl genhedloedd, gan eu bedyddio hwy yn enw'r Tad a'r Mab a'r Ysbryd Glân,

20 a dysgu iddynt gadw'r holl orchmynion a roddais i chwi. Ac yn awr, yr wyf fi gyda chwi yn wastad hyd ddiwedd amser.”

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 11 12 13 14 15 16 17 18 19 20 21 22 23 24 25 26 27 28