1 Wedi galw ato ei ddeuddeg disgybl rhoddodd Iesu iddynt awdurdod dros ysbrydion aflan, i'w bwrw allan, ac i iacháu pob afiechyd a phob llesgedd.
2 A dyma enwau'r deuddeg apostol: yn gyntaf Simon, a elwir Pedr, ac Andreas ei frawd, ac Iago fab Sebedeus, ac Ioan ei frawd,
3 Philip a Bartholomeus, Thomas a Mathew'r casglwr trethi, Iago fab Alffeus, a Thadeus,
4 Simon y Selot, a Jwdas Iscariot, yr un a'i bradychodd ef.
5 Y deuddeg hyn a anfonodd Iesu allan wedi rhoi'r gorchmynion yma iddynt: “Peidiwch â mynd i gyfeiriad y Cenhedloedd, a pheidiwch â mynd i mewn i un o drefi'r Samariaid.
6 Ewch yn hytrach at ddefaid colledig tŷ Israel.