71 Ac wedi iddo fynd allan i'r porth, gwelodd morwyn arall ef a dweud wrth y rhai oedd yno, “Yr oedd hwn gyda Iesu'r Nasaread.”
72 Gwadodd yntau drachefn â llw, “Nid wyf yn adnabod y dyn.”
73 Ymhen ychydig, dyma'r rhai oedd yn sefyll yno yn dod at Pedr ac yn dweud wrtho, “Yn wir yr wyt ti hefyd yn un ohonynt, achos y mae dy acen yn dy fradychu.”
74 Yna dechreuodd yntau regi a thyngu, “Nid wyf yn adnabod y dyn.” Ac ar unwaith fe ganodd y ceiliog.
75 Cofiodd Pedr y gair a lefarodd Iesu, “Cyn i'r ceiliog ganu, fe'm gwedi i deirgwaith.” Aeth allan ac wylo'n chwerw.