27 “Clywsoch fel y dywedwyd, ‘Na odineba.’
28 Ond rwyf fi'n dweud wrthych fod pob un sy'n edrych mewn blys ar wraig eisoes wedi cyflawni godineb â hi yn ei galon.
29 Os yw dy lygad de yn achos cwymp iti, tyn ef allan a'i daflu oddi wrthyt; y mae'n fwy buddiol iti golli un o'th aelodau na bod dy gorff cyfan yn cael ei daflu i uffern.
30 Ac os yw dy law dde yn achos cwymp iti, tor hi ymaith a'i thaflu oddi wrthyt; y mae'n fwy buddiol iti golli un o'th aelodau na bod dy gorff cyfan yn mynd i uffern.
31 “Dywedwyd hefyd, ‘Pwy bynnag sy'n ysgaru ei wraig, rhodded iddi lythyr ysgar.’
32 Ond rwyf fi'n dweud wrthych fod pob un sy'n ysgaru ei wraig, ar wahân i achos o anffyddlondeb, yn peri iddi hi odinebu, ac y mae'r sawl sy'n priodi gwraig a ysgarwyd yn godinebu.
33 “Clywsoch hefyd fel y dywedwyd wrth y rhai gynt, ‘Na thynga lw twyllodrus’, a ‘Rhaid iti gadw pob llw a roist i'r Arglwydd.’