10 Pan glywodd Iesu hyn, fe ryfeddodd, a dywedodd wrth y rhai oedd yn ei ddilyn, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni chefais gan neb yn Israel ffydd mor fawr.
11 Rwy'n dweud wrthych y daw llawer o'r dwyrain a'r gorllewin a chymryd eu lle yn y wledd gydag Abraham ac Isaac a Jacob yn nheyrnas nefoedd.
12 Ond caiff plant y deyrnas eu bwrw allan i'r tywyllwch eithaf; bydd yno wylo a rhincian dannedd.”
13 A dywedodd Iesu wrth y canwriad, “Dos ymaith; boed iti fel y credaist.” Ac fe iachawyd ei was y munud hwnnw.
14 Pan ddaeth i dŷ Pedr, gwelodd Iesu ei fam-yng-nghyfraith ef yn gorwedd yn wael dan dwymyn.
15 Fe gyffyrddodd â'i llaw, a gadawodd y dwymyn hi, ac fe gododd a dechrau gweini arno.
16 Gyda'r nos daethant â llawer oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid ato, ac fe fwriodd allan yr ysbrydion â'i air, ac iacháu pawb oedd yn glaf;