28 Wedi iddo fynd i'r ochr draw, i wlad y Gadareniaid, daeth i'w gyfarfod ddau ddyn oedd wedi eu meddiannu gan gythreuliaid, yn dod allan o blith y beddau; yr oeddent mor ffyrnig fel na allai neb fynd heibio'r ffordd honno.
29 A dyma hwy'n gweiddi, “Beth sydd a fynni di â ni, Fab Duw? A ddaethost yma cyn yr amser i'n poenydio ni?”
30 Cryn bellter oddi wrthynt yr oedd cenfaint fawr o foch yn pori.
31 Ymbiliodd y cythreuliaid arno, “Os wyt yn ein bwrw ni allan, anfon ni i'r genfaint moch.”
32 Meddai ef wrthynt, “Ewch.” Ac fe aethant allan o'r dynion a mynd i mewn i'r moch. A dyma'r genfaint i gyd yn rhuthro dros y dibyn i'r môr, a threngi yn y dyfroedd.
33 Ffodd eu bugeiliaid, a mynd am y dref i adrodd yr holl hanes, a'r hyn oedd wedi digwydd i'r dynion a fu ym meddiant cythreuliaid.
34 A dyma'r holl dref yn mynd allan i gyfarfod â Iesu, ac wedi ei weld, yn erfyn arno symud o'u gororau.