20 A dyma wraig ac arni waedlif ers deuddeng mlynedd yn dod ato o'r tu ôl ac yn cyffwrdd ag ymyl ei fantell.
21 Oherwydd yr oedd hi wedi dweud ynddi ei hun, “Dim ond imi gyffwrdd â'i fantell, fe gaf fy iacháu.”
22 A throes Iesu, a gwelodd hi, ac meddai, “Cod dy galon, fy merch; y mae dy ffydd wedi dy iacháu di.” Ac iachawyd y wraig o'r munud hwnnw.
23 Pan ddaeth Iesu i dŷ'r llywodraethwr, a gweld y pibyddion a'r dyrfa mewn cynnwrf,
24 dywedodd, “Ewch ymaith, oherwydd nid yw'r eneth wedi marw; cysgu y mae.” Dechreusant chwerthin am ei ben.
25 Ac wedi i'r dyrfa gael ei gyrru allan, aeth ef i mewn a gafael yn ei llaw, a chododd yr eneth.
26 Ac aeth yr hanes am hyn allan i'r holl ardal honno.