1 Rhosyn Saron, a lili y dyffrynnoedd, ydwyf fi.
2 Megis lili ymysg y drain, felly y mae fy anwylyd ymysg y merched.
3 Megis pren afalau ymysg prennau y coed, felly y mae fy anwylyd ymhlith y meibion: bu dda gennyf eistedd dan ei gysgod ef, a'i ffrwyth oedd felys i'm genau.
4 Efe a'm dug i'r gwindy, a'i faner drosof ydoedd gariad.
5 Cynheliwch fi â photelau, cysurwch fi ag afalau; canys claf ydwyf fi o gariad.
6 Ei law aswy sydd dan fy mhen, a'i ddeheulaw sydd yn fy nghofleidio.
7 Merched Jerwsalem, tynghedaf chwi trwy iyrchod ac ewigod y maes, na chyffrôch, ac na ddeffrôch fy nghariad, hyd oni fynno ei hun.
8 Dyma lais fy anwylyd! wele ef yn dyfod, yn neidio ar y mynyddoedd, ac yn llamu ar y bryniau.
9 Tebyg yw fy anwylyd i iwrch neu lwdn hydd; wele efe yn sefyll y tu ôl i'n pared, yn edrych trwy y ffenestri, yn ymddangos trwy y dellt.
10 Fy anwylyd a lefarodd, ac a ddywedodd wrthyf, Cyfod, fy anwylyd, a thyred di, fy mhrydferth:
11 Canys wele, y gaeaf a aeth heibio, y glaw a basiodd, ac a aeth ymaith;
12 Gwelwyd y blodau ar y ddaear, daeth amser i'r adar i ganu, clywyd llais y durtur yn ein gwlad;
13 Y ffigysbren a fwriodd allan ei ffigys irion, a'r gwinwydd â'u hegin grawn a roddasant arogl teg. Cyfod di, fy anwylyd, a thyred di, fy mhrydferth.
14 Fy ngholomen, yr hon wyt yn holltau y graig, yn lloches y grisiau, gad i mi weled dy wyneb, gad i mi glywed dy lais: canys dy lais sydd beraidd, a'th olwg yn hardd.
15 Deliwch i ni y llwynogod, y llwynogod bychain, y rhai a ddifwynant y gwinllannoedd: canys y mae i'n gwinllannoedd egin grawnwin.
16 Fy anwylyd sydd eiddof fi, a minnau yn eiddo yntau; y mae efe yn bugeilio ymysg y lili.
17 Hyd oni wawrio'r dydd, a chilio o'r cysgodau; tro, bydd debyg, fy anwylyd, i iwrch, neu lwdn hydd ym mynyddoedd Bether.