Caniad Solomon 8 BWM

1 O na bait megis brawd i mi, yn sugno bronnau fy mam! pan y'th gawn allan, cusanwn di; eto ni'm dirmygid.

2 Arweiniwn, a dygwn di i dŷ fy mam, yr hon a'm dysgai: parwn i ti yfed gwin llysieuog o sugn fy mhomgranadau.

3 Ei law aswy fyddai dan fy mhen, a'i law ddeau a'm cofleidiai.

4 Tynghedaf chwi, ferched Jerwsalem, na chyffrôch, ac na ddeffrôch fy nghariad, hyd oni fynno ei hun.

5 Pwy yw hon sydd yn dyfod i fyny o'r anialwch, ac yn pwyso ar ei hanwylyd? Dan yr afallen y'th gyfodais: yno y'th esgorodd dy fam; yno y'th esgorodd yr hon a'th ymddûg.

6 Gosod fi megis sêl ar dy galon, fel sêl ar dy fraich: canys cariad sydd gryf fel angau; eiddigedd sydd greulon fel y bedd: ei farwor sydd farwor tanllyd, a fflam angerddol iddynt.

7 Dyfroedd lawer ni allant ddiffoddi cariad, ac afonydd nis boddant: pe rhoddai ŵr holl gyfoeth ei dŷ am gariad, gan ddirmygu y dirmygid hynny.

8 Y mae i ni chwaer fechan, ac nid oes fronnau iddi: beth a wnawn i'n chwaer y dydd y dyweder amdani?

9 Os caer yw hi, ni a adeiladwn arni balas arian; ac os drws yw hi, ni a'i caewn hi ag ystyllod cedrwydd.

10 Caer ydwyf fi, a'm bronnau fel tyrau: yna yr oeddwn yn ei olwg ef megis wedi cael tangnefedd.

11 Yr oedd gwinllan i Solomon yn Baal‐hamon: efe a osododd y winllan i warcheidwaid; pob un a ddygai am ei ffrwyth fil o ddarnau arian.

12 Fy ngwinllan sydd ger fy mron: mil a roddir i ti, Solomon, a dau cant i'r rhai a gadwant ei ffrwyth hi.

13 O yr hon a drigi yn y gerddi, y cyfeillion a wrandawant ar dy lais: pâr i mi ei glywed.

14 Brysia, fy anwylyd, a bydd debyg i iwrch neu lwdn hydd ar fynyddoedd y perlysiau.

Penodau

1 2 3 4 5 6 7 8