1 Lliw nos yn fy ngwely y ceisiais yr hwn a hoffa fy enaid: ceisiais ef, ac nis cefais.
2 Codaf yn awr, ac af o amgylch y ddinas, trwy yr heolydd a'r ystrydoedd, ceisiaf yr hwn a hoffa fy enaid: ceisiais ef, ac nis cefais.
3 Y gwylwyr, y rhai a aent o amgylch y ddinas, a'm cawsant: gofynnais, A welsoch chwi yr hwn sydd hoff gan fy enaid?
4 Nid aethwn i nepell oddi wrthynt, hyd oni chefais yr hwn sydd hoff gan fy enaid: deliais ef, ac nis gollyngais, hyd oni ddygais ef i dŷ fy mam, ac i ystafell yr hon a'm hymddûg.