4 Nid aethwn i nepell oddi wrthynt, hyd oni chefais yr hwn sydd hoff gan fy enaid: deliais ef, ac nis gollyngais, hyd oni ddygais ef i dŷ fy mam, ac i ystafell yr hon a'm hymddûg.
5 Merched Jerwsalem, tynghedaf chwi trwy iyrchod ac ewigod y maes, na chyffrôch ac na ddeffrôch fy nghariad, hyd oni fynno ei hun.
6 Pwy yw hon sydd yn dyfod i fyny o'r anialwch megis colofnau mwg, wedi ei pherarogli â myrr, ac â thus, ac â phob powdr yr apothecari?
7 Wele ei wely ef, sef yr eiddo Solomon; y mae trigain o gedyrn o'i amgylch, sef o gedyrn Israel.
8 Hwynt oll a ddaliant gleddyf, wedi eu dysgu i ryfel, pob un â'i gleddyf ar ei glun, rhag ofn liw nos.
9 Gwnaeth y brenin Solomon iddo gerbyd o goed Libanus.
10 Ei byst ef a wnaeth efe o arian, ei lawr o aur, ei lenni o borffor; ei ganol a balmantwyd â chariad, i ferched Jerwsalem.