1 Deuthum i'm gardd, fy chwaer, a'm dyweddi: cesglais fy myrr gyda'm perarogl, bwyteais fy nil gyda'm mêl, yfais fy ngwin gyda'm llaeth: bwytewch, gyfeillion, yfwch, ie, yfwch yn helaeth, fy rhai annwyl.
2 Myfi sydd yn cysgu, a'm calon yn neffro: llais fy anwylyd yw yn curo, gan ddywedyd, Fy chwaer, fy anwylyd, fy ngholomen, fy nihalog, agor i mi: canys llanwyd fy mhen â gwlith, a'm gwallt â defnynnau y nos.
3 Diosgais fy mhais; pa fodd y gwisgaf hi? golchais fy nhraed; pa fodd y diwynaf hwynt?
4 Fy anwylyd a estynnodd ei law trwy y twll; a'm hymysgaroedd a gyffrôdd er ei fwyn.
5 Mi a gyfodais i agori i'm hanwylyd; a'm dwylo a ddiferasant gan fyrr, a'm bysedd gan fyrr yn diferu ar hyd hesbennau y clo.
6 Agorais i'm hanwylyd; ond fy anwylyd a giliasai, ac a aethai ymaith: fy enaid a lewygodd pan lefarodd: ceisiais, ac nis cefais; gelwais ef, ond ni'm hatebodd.