3 Diosgais fy mhais; pa fodd y gwisgaf hi? golchais fy nhraed; pa fodd y diwynaf hwynt?
4 Fy anwylyd a estynnodd ei law trwy y twll; a'm hymysgaroedd a gyffrôdd er ei fwyn.
5 Mi a gyfodais i agori i'm hanwylyd; a'm dwylo a ddiferasant gan fyrr, a'm bysedd gan fyrr yn diferu ar hyd hesbennau y clo.
6 Agorais i'm hanwylyd; ond fy anwylyd a giliasai, ac a aethai ymaith: fy enaid a lewygodd pan lefarodd: ceisiais, ac nis cefais; gelwais ef, ond ni'm hatebodd.
7 Y gwylwyr y rhai a aent o amgylch y ddinas, a'm cawsant, a'm trawsant, a'm harchollasant: gwylwyr y caerau a ddygasant fy ngorchudd oddi arnaf.
8 Merched Jerwsalem, gorchmynnaf i chwi, os cewch fy anwylyd, fynegi iddo fy mod yn glaf o gariad.
9 Beth yw dy anwylyd rhagor anwylyd arall, y decaf o'r gwragedd? beth yw dy anwylyd rhagor anwylyd arall, pan orchmynni i ni felly?