7 Y gwylwyr y rhai a aent o amgylch y ddinas, a'm cawsant, a'm trawsant, a'm harchollasant: gwylwyr y caerau a ddygasant fy ngorchudd oddi arnaf.
8 Merched Jerwsalem, gorchmynnaf i chwi, os cewch fy anwylyd, fynegi iddo fy mod yn glaf o gariad.
9 Beth yw dy anwylyd rhagor anwylyd arall, y decaf o'r gwragedd? beth yw dy anwylyd rhagor anwylyd arall, pan orchmynni i ni felly?
10 Fy anwylyd sydd wyn a gwridog, yn rhagori ar ddengmil.
11 Ei ben fel aur coeth, ei wallt yn grych, yn ddu fel y frân.
12 Ei lygaid fel llygaid colomennod wrth afonydd dyfroedd, wedi eu golchi â llaeth, wedi eu gosod yn gymwys.
13 Ei ruddiau fel gwely perlysiau, fel blodau peraidd: ei wefusau fel lili yn diferu myrr diferol.