13 Galwyd hefyd lle y clywais arnynt hwy, sef ar yr olwynion, O olwyn.
14 A phedwar wyneb oedd i bob un; yr wyneb cyntaf yn wyneb ceriwb, a'r ail wyneb yn wyneb dyn, a'r trydydd yn wyneb llew, a'r pedwerydd yn wyneb eryr.
15 A'r ceriwbiaid a ymddyrchafasant. Dyma y peth byw a welais wrth afon Chebar.
16 A phan gerddai y ceriwbiaid, y cerddai yr olwynion wrthynt; a phan godai y ceriwbiaid eu hadenydd i ymddyrchafu oddi ar y ddaear, yr olwynion hwythau ni throent chwaith oddi wrthynt.
17 Safent, pan safent hwythau; a chodent gyda hwy, pan godent hwythau; canys ysbryd y peth byw oedd ynddynt.
18 Yna gogoniant yr Arglwydd a aeth allan oddi ar riniog y tŷ, ac a safodd ar y ceriwbiaid.
19 A'r ceriwbiaid a godasant eu hadenydd, ac a ymddyrchafasant oddi ar y ddaear o flaen fy llygaid: a'r olwynion oedd yn eu hymyl, pan aethant allan: a safodd pob un wrth ddrws porth y dwyrain i dŷ yr Arglwydd; a gogoniant Duw Israel oedd arnynt oddi arnodd.