1 Ac efe a'm dug i i'r deml, ac a fesurodd y pyst yn chwe chufydd o led o'r naill du, ac yn chwe chufydd o led o'r tu arall, fel yr oedd lled y babell.
2 Lled y drws hefyd oedd ddeg cufydd; ac ystlysau y drws yn bum cufydd o'r naill du, ac yn bum cufydd o'r tu arall: ac efe a fesurodd ei hyd ef yn ddeugain cufydd, a'r lled yn ugain cufydd.
3 Ac efe a aeth tuag i mewn, ac a fesurodd bost y drws yn ddau gufydd, a'r drws yn chwe chufydd, a lled y drws yn saith gufydd.
4 Ac efe a fesurodd ei hyd ef yn ugain cufydd; a'r lled yn ugain cufydd o flaen y deml: ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma y cysegr sancteiddiolaf.
5 Ac efe a fesurodd bared y tŷ yn chwe chufydd; a lled pob ystlysgell yn bedwar cufydd o amgylch ogylch i'r tŷ.
6 A'r celloedd oedd dair, cell ar gell, ac yn ddeg ar hugain o weithiau: ac yr oeddynt yn cyrhaeddyd at bared y tŷ yr hwn oedd i'r ystafelloedd o amgylch ogylch, fel y byddent ynglŷn; ac nid oeddynt ynglŷn o fewn pared y tŷ.
7 Ac fe a ehangwyd, ac oedd yn myned ar dro uwch uwch i'r celloedd: oherwydd tro y tŷ oedd yn myned i fyny o amgylch y tŷ: am hynny y tŷ oedd ehangach oddi arnodd; ac felly y dringid o'r isaf i'r uchaf trwy y ganol.
8 Gwelais hefyd uchder y tŷ o amgylch ogylch: seiliau y celloedd oedd gorsen helaeth o chwe chufydd mawrion.
9 A thewder y mur yr hwn oedd i'r gell o'r tu allan, oedd bum cufydd; a'r gweddill oedd le i'r celloedd y rhai oedd o fewn.
10 A rhwng yr ystafelloedd yr oedd lled ugain cufydd ynghylch y tŷ o amgylch ogylch.
11 A drysau yr ystlysgell oedd tua'r llannerch weddill; un drws tua'r gogledd, ac un drws tua'r deau: a lled y fan a weddillasid oedd bum cufydd o amgylch ogylch.
12 A'r adeiladaeth yr hon oedd o flaen y llannerch neilltuol, ar y cwr tua'r gorllewin, oedd ddeg cufydd a thrigain o led; a mur yr adeiladaeth oedd bum cufydd o dewder o amgylch ogylch, a'i hyd oedd ddeg cufydd a phedwar ugain.
13 Ac efe a fesurodd y tŷ, yn gan cufydd o hyd; a'r llannerch neilltuol, a'r adeiladaeth, a'i pharwydydd, yn gan cufydd o hyd.
14 A lled wyneb y tŷ, a'r llannerch neilltuol tua'r dwyrain, oedd gan cufydd.
15 Ac efe a fesurodd hyd yr adeiladaeth ar gyfer y llannerch neilltuol yr hon oedd o'r tu cefn iddo, a'i ystafelloedd o'r naill du, ac o'r tu arall, yn gan cufydd, gyda'r deml oddi fewn, a drysau y cyntedd.
16 Y gorsingau, a'r ffenestri cyfyng, a'r ystafelloedd o amgylch ar eu tri uchder, ar gyfer y rhiniog a ystyllenasid â choed o amgylch ogylch, ac o'r llawr hyd y ffenestri, a'r ffenestri hefyd a ystyllenasid;
17 Hyd uwchben y drws, a hyd y tŷ o fewn ac allan, ac ar yr holl bared o amgylch ogylch o fewn ac allan, wrth fesurau.
18 A cheriwbiaid hefyd ac â phalmwydd y gweithiasid ef, palmwydden rhwng pob dau geriwb: a dau wyneb oedd i bob ceriwb.
19 Canys wyneb dyn oedd tua'r balmwydden o'r naill du, ac wyneb llew tua'r balmwydden o'r tu arall: yr oedd wedi ei weithio ar hyd y tŷ o amgylch ogylch.
20 Ceriwbiaid a phalmwydd a weithiasid o'r ddaear hyd oddi ar y drws, ac ar bared y deml.
21 Pedwar ochrog oedd pyst y deml, ac wyneb y cysegr; gwelediad y naill fel gwelediad y llall.
22 Yr allor bren oedd dri chufydd ei huchder, a'i hyd yn ddau gufydd: a'i chonglau, a'i huchder, a'i pharwydydd, oedd o bren. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma y bwrdd sydd gerbron yr Arglwydd.
23 Ac yr ydoedd dau ddrws i'r deml ac i'r cysegr:
24 A dwy ddôr i'r drysau, sef dwy ddôr blygedig; dwy ddôr i'r naill ddrws, a dwy ddôr i'r llall.
25 A gwnaethid arnynt, ar ddrysau y deml, geriwbiaid a phalmwydd, fel y gwnaethid ar y parwydydd: ac yr oedd trawstiau coed ar wyneb y cyntedd o'r tu allan.
26 Ffenestri cyfyng hefyd a phalmwydd oedd o bob tu, ar ystlysau y porth, ac ar ystafelloedd y tŷ, a'r trawstiau.