Eseciel 27 BWM

1 Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf drachefn, gan ddywedyd,

2 Tithau fab dyn, cyfod alarnad am Tyrus;

3 A dywed wrth Tyrus, O dydi yr hon wyt yn trigo wrth borthladdoedd y môr, marchnadyddes y bobloedd i ynysoedd lawer, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Tyrus, ti a ddywedaist, Myfi wyf berffaith o degwch.

4 Dy derfynau sydd yng nghanol y môr; dy adeiladwyr a berffeithiasant dy degwch.

5 Adeiladasant dy holl ystyllod o ffynidwydd o Senir: cymerasant gedrwydd o Libanus i wneuthur hwylbren i ti.

6 Gweithiasant dy rwyfau o dderw o Basan; mintai yr Assuriaid a wnaethant dy feinciau o ifori o ynysoedd Chittim.

7 Lliain main o'r Aifft o symudliw oedd yr hyn a ledit i fod yn hwyl i ti; glas a phorffor o ynysoedd Elisa, oedd dy do.

8 Trigolion Sidon ac Arfad oedd dy rwyfwyr: dy ddoethion di, Tyrus, o'th fewn, oedd dy long‐lywiawdwyr.

9 Henuriaid Gebal a'i doethion oedd ynot yn cau dy agennau: holl longau y môr a'u llongwyr oedd ynot ti i farchnata dy farchnad.

10 Y Persiaid, a'r Ludiaid, a'r Phutiaid, oedd ryfelwyr i ti yn dy luoedd: tarian a helm a grogasant ynot; hwy a roddasant i ti harddwch.

11 Meibion Arfad oedd gyda'th luoedd ar dy gaerau oddi amgylch, a'r Gammadiaid yn dy dyrau: crogasant eu tarianau ar dy gaerau oddi amgylch; hwy a berffeithiasant dy degwch.

12 Tarsis oedd dy farchnadyddes oherwydd amldra pob golud; ag arian, haearn, alcam, a phlwm, y marchnatasant yn dy ffeiriau.

13 Jafan, Tubal, a Mesech, hwythau oedd dy farchnadyddion: marchnatasant yn dy farchnad am ddynion a llestri pres.

14 Y rhai o dŷ Togarma a farchnatasant yn dy ffeiriau â meirch, a marchogion, a mulod.

15 Meibion Dedan oedd dy farchnadwyr; ynysoedd lawer oedd farchnadoedd dy law: dygasant gyrn ifori ac ebenus yn anrheg i ti.

16 Aram oedd dy farchnadydd oherwydd amled pethau o'th waith di: am garbuncl, porffor, a gwaith edau a nodwydd, a lliain meinllin, a chwrel, a gemau, y marchnatasant yn dy ffeiriau.

17 Jwda a thir Israel, hwythau oedd dy farchnadyddion: marchnatasant yn dy farchnad am wenith Minnith, a Phannag, a mêl, ac olew, a thriagl.

18 Damascus oedd dy farchnadydd yn amlder dy waith oherwydd lliaws pob golud; am win Helbon, a gwlân gwyn.

19 Dan hefyd a Jafan yn cyniwair a farchnatasant yn dy farchnadoedd: haearn wedi ei weithio, casia, a'r calamus, oedd yn dy farchnad.

20 Dedan oedd dy farchnadydd mewn brethynnau gwerthfawr i gerbydau.

21 Arabia, a holl dywysogion Cedar, oedd hwythau farchnadyddion i ti am ŵyn, hyrddod, a bychod: yn y rhai hyn yr oedd dy farchnadyddion.

22 Marchnadyddion Seba a Rama, hwythau oedd dy farchnadyddion: marchnatasant yn dy ffeiriau am bob prif beraroglau, ac am bob maen gwerthfawr, ac aur.

23 Haran, a Channe, ac Eden, marchnadyddion Seba, Assur, a Chilmad, oedd yn marchnata â thi.

24 Dyma dy farchnadyddion am bethau perffaith, am frethynnau gleision, a gwaith edau a nodwydd, ac am gistiau gwisgoedd gwerthfawr, wedi eu rhwymo â rhaffau a'u gwneuthur o gedrwydd, ymysg dy farchnadaeth.

25 Llongau Tarsis oedd yn canu amdanat yn dy farchnad; a thi a lanwyd, ac a ogoneddwyd yn odiaeth yng nghanol y moroedd.

26 Y rhai a'th rwyfasant a'th ddygasant i ddyfroedd lawer: gwynt y dwyrain a'th ddrylliodd yng nghanol y moroedd.

27 Dy olud, a'th ffeiriau, dy farchnadaeth, dy forwyr, a'th feistriaid llongau, cyweirwyr dy agennau, a marchnadwyr dy farchnad, a'th ryfelwyr oll y rhai sydd ynot, a'th holl gynulleidfa yr hon sydd yn dy ganol, a syrthiant yng nghanol y môr, ar ddydd dy gwymp di.

28 Wrth lef gwaedd dy feistriaid llongau, y tonnau a gyffroant.

29 Yna pob rhwyfwr, y morwyr, holl lywyddion y moroedd, a ddisgynnant o'u llongau, ar y tir y safant;

30 A gwnânt glywed eu llef amdanat, a gwaeddant yn chwerw, a chodant lwch ar eu pennau, ac ymdrybaeddant yn y lludw.

31 A hwy a'u gwnânt eu hunain yn foelion amdanat, ac a ymwregysant â sachliain, ac a wylant amdanat â chwerw alar, mewn chwerwedd calon.

32 A chodant amdanat alarnad yn eu cwynfan, a galarant amdanat, gan ddywedyd, Pwy oedd fel Tyrus, fel yr hon a ddinistriwyd yng nghanol y môr!

33 Pan ddelai dy farchnadaeth o'r moroedd, diwellit bobloedd lawer; ag amlder dy olud a'th farchnadaeth y cyfoethogaist frenhinoedd y ddaear.

34 Y pryd y'th dorrer gan y môr yn nyfnderau y dyfroedd, dy farchnad a'th holl gynulleidfa a syrthiant yn dy ganol.

35 Holl breswylwyr yr ynysoedd a synnant amdanat, a'u brenhinoedd a ddychrynant ddychryn; hwy a drallodir yn eu hwynebau.

36 Y marchnadyddion ymysg y bobloedd a chwibanant arnat: dychryn fyddi, ac ni byddi byth mwyach.