19 A'r ceriwbiaid a godasant eu hadenydd, ac a ymddyrchafasant oddi ar y ddaear o flaen fy llygaid: a'r olwynion oedd yn eu hymyl, pan aethant allan: a safodd pob un wrth ddrws porth y dwyrain i dŷ yr Arglwydd; a gogoniant Duw Israel oedd arnynt oddi arnodd.
20 Dyma y peth byw a welais dan Dduw Israel, wrth afon Chebar: a gwybûm mai y ceriwbiaid oeddynt.
21 Pedwar wyneb oedd i bob un, a phedair adain i bob un, a chyffelybrwydd dwylo dyn dan eu hadenydd.
22 Cyffelybrwydd eu hwynebau oedd yr un wynebau ag a welais wrth afon Chebar, eu dull hwynt a hwythau: cerddent bob un yn union rhag ei wyneb.