5 A sŵn adenydd y ceriwbiaid a glybuwyd hyd y cyntedd nesaf allan, fel sŵn Duw Hollalluog pan lefarai.
6 Bu hefyd, wedi iddo orchymyn i'r gŵr a wisgasid â lliain, gan ddywedyd, Cymer dân oddi rhwng yr olwynion, oddi rhwng y ceriwbiaid; fyned ohono ef, a sefyll wrth yr olwynion.
7 Yna yr estynnodd un ceriwb ei law oddi rhwng y ceriwbiaid i'r tân yr hwn oedd rhwng y ceriwbiaid, ac a gymerth, ac a roddodd beth yn nwylo yr hwn a wisgasid â lliain: yntau a'i cymerodd, ac a aeth allan.
8 A gwelid yn y ceriwbiaid lun llaw dyn dan eu hadenydd.
9 Edrychais hefyd, ac wele bedair olwyn wrth y ceriwbiaid, un olwyn wrth un ceriwb, ac un olwyn wrth geriwb arall: a gwelediad yr olwynion oedd fel lliw maen beryl.
10 A'u gwelediad, un wedd oedd iddynt ill pedair, fel pe byddai olwyn yng nghanol olwyn.
11 Pan gerddent, ar eu pedwar ochr y cerddent; ni throent pan gerddent, ond lle yr edrychai y pen, y cerddent ar ei ôl ef; ni throent pan gerddent.