1 Yna y'm cyfododd yr ysbryd, ac y'm dug hyd borth dwyrain tŷ yr Arglwydd, yr hwn sydd yn edrych tua'r dwyrain: ac wele bumwr ar hugain yn nrws y porth; ac yn eu mysg y gwelwn Jaasaneia mab Asur, a Phelatia mab Benaia, tywysogion y bobl.
2 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ha fab dyn, dyma y gwŷr sydd yn dychmygu anwiredd, ac yn cynghori drwg gyngor yn y ddinas hon:
3 Y rhai a ddywedant, Nid yw yn agos; adeiladwn dai; hi yw y crochan, a ninnau y cig.
4 Am hynny proffwyda i'w herbyn hwynt, proffwyda, fab dyn.