4 Am hynny proffwyda i'w herbyn hwynt, proffwyda, fab dyn.
5 Yna y syrthiodd ysbryd yr Arglwydd arnaf, ac a ddywedodd wrthyf, Dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Tŷ Israel, fel hyn y dywedasoch: canys mi a wn y pethau sydd yn dyfod i'ch meddwl chwi, bob un ohonynt.
6 Amlhasoch eich lladdedigion o fewn y ddinas hon, a llanwasoch ei heolydd hi â chelaneddau.
7 Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Eich lladdedigion y rhai a osodasoch yn ei chanol hi, yw y cig; a hithau yw y crochan: chwithau a ddygaf allan o'i chanol.
8 Y cleddyf a ofnasoch, a'r cleddyf a ddygaf arnoch, medd yr Arglwydd Dduw.
9 Dygaf chwi hefyd allan o'i chanol hi, a rhoddaf chwi yn llaw dieithriaid, a gwnaf farn yn eich mysg.
10 Ar y cleddyf y syrthiwch, ar derfyn Israel y barnaf chwi: fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd.