10 Dywed di wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, I'r tywysog yn Jerwsalem y mae y baich hwn, ac i holl dŷ Israel y rhai sydd yn eu mysg.
11 Dywed, Eich arwydd chwi ydwyf fi; fel y gwneuthum i, felly y gwneir iddynt hwy: mewn caethglud yr ânt i gaethiwed.
12 A'r tywysog yr hwn sydd yn eu canol a ddwg ar ei ysgwydd yn y tywyll, ac a â allan: cloddiant trwy y mur, i ddwyn allan trwyddo: ei wyneb a guddia fel na welo efe y ddaear â'i lygaid.
13 A mi a daenaf fy rhwyd arno ef, fel y dalier ef yn fy rhwyd: a dygaf ef i Babilon, tir y Caldeaid; ac ni wêl efe hi, eto yno y bydd efe farw.
14 A gwasgaraf yr holl rai sydd yn ei gylch ef i'w gynorthwyo, a'i holl fyddinoedd, tua phob gwynt; a thynnaf gleddyf ar eu hôl hwynt.
15 A hwy a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, wedi gwasgaru ohonof hwynt ymysg y cenhedloedd, a'u taenu ar hyd y gwledydd.
16 Eto gweddillaf ohonynt ychydig ddynion oddi wrth y cleddyf, oddi wrth y newyn, ac oddi wrth yr haint; fel y mynegont eu holl ffieidd‐dra ymysg y cenhedloedd, lle y delont: a gwybyddant mai myfi yw yr Arglwydd.