17 Gair yr Arglwydd hefyd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
18 Ha fab dyn, bwytei dy fara dan grynu, a'th ddwfr a yfi mewn dychryn a gofal:
19 A dywed wrth bobl y tir, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw am drigolion Jerwsalem, ac am wlad Israel; Eu bara a fwytânt mewn gofal, a'u dwfr a yfant mewn syndod, fel yr anrheithir ei thir o'i chyflawnder, am drais y rhai oll a drigant ynddi.
20 A'r dinasoedd cyfanheddol a anghyfanheddir, a'r tir a fydd anrheithiol; felly y gwybyddwch mai myfi yw yr Arglwydd.
21 A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,
22 Ha fab dyn, beth yw y ddihareb hon gennych am dir Israel, gan ddywedyd, Y dyddiau a estynnwyd, a darfu am bob gweledigaeth?
23 Am hynny dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gwnaf i'r ddihareb hon beidio, fel nad arferont hi yn ddihareb mwy yn Israel: ond dywed wrthynt, Y dyddiau sydd agos, a sylwedd pob gweledigaeth.