21 A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd,
22 Ha fab dyn, beth yw y ddihareb hon gennych am dir Israel, gan ddywedyd, Y dyddiau a estynnwyd, a darfu am bob gweledigaeth?
23 Am hynny dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gwnaf i'r ddihareb hon beidio, fel nad arferont hi yn ddihareb mwy yn Israel: ond dywed wrthynt, Y dyddiau sydd agos, a sylwedd pob gweledigaeth.
24 Canys ni bydd mwy un weledigaeth ofer, na dewiniaeth wenieithus, o fewn tŷ Israel.
25 Canys myfi yw yr Arglwydd: mi a lefaraf, a'r gair a lefarwyf a wneir; nid oedir ef mwy: oherwydd yn eich dyddiau chwi, O dŷ gwrthryfelgar, y dywedaf y gair, ac a'i gwnaf, medd yr Arglwydd Dduw.
26 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
27 Ha fab dyn, wele dŷ Israel yn dywedyd, Y weledigaeth a wêl efe fydd wedi dyddiau lawer, a phroffwydo y mae efe am amseroedd pell.