1 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
2 Proffwyda, fab dyn, yn erbyn proffwydi Israel, y rhai sydd yn proffwydo, a dywed wrth y rhai a broffwydant o'u calon eu hun, Gwrandewch air yr Arglwydd.
3 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gwae y proffwydi ynfyd, y rhai a rodiant yn ôl eu hysbryd eu hun, ac heb weled dim.
4 Dy broffwydi, Israel, ydynt fel llwynogod yn yr anialwch.
5 Ni safasoch yn yr adwyau, ac ni chaeasoch y cae i dŷ Israel, i sefyll yn y rhyfel ar ddydd yr Arglwydd.