3 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gwae y proffwydi ynfyd, y rhai a rodiant yn ôl eu hysbryd eu hun, ac heb weled dim.
4 Dy broffwydi, Israel, ydynt fel llwynogod yn yr anialwch.
5 Ni safasoch yn yr adwyau, ac ni chaeasoch y cae i dŷ Israel, i sefyll yn y rhyfel ar ddydd yr Arglwydd.
6 Gwagedd a gau ddewiniaeth a welsant, y rhai a ddywedant, Dywedodd yr Arglwydd; a'r Arglwydd heb eu hanfon hwynt: a pharasant i eraill ddisgwyl am gyflawni y gair.
7 Onid ofer weledigaeth a welsoch, a gau ddewiniaeth a draethasoch, pan ddywedasoch, Yr Arglwydd a ddywedodd; a minnau heb ddywedyd?
8 Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Am lefaru ohonoch wagedd, a gweled ohonoch gelwydd; am hynny wele fi i'ch erbyn, medd yr Arglwydd Dduw.
9 A bydd fy llaw yn erbyn y proffwydi sydd yn gweled gwagedd, ac yn dewinio celwydd; yng nghyfrinach fy mhobl ni byddant, ac o fewn ysgrifen tŷ Israel nid ysgrifennir hwynt, i dir Israel hefyd ni ddeuant; a gwybyddwch mai myfi yw yr Arglwydd Dduw.