6 Gwagedd a gau ddewiniaeth a welsant, y rhai a ddywedant, Dywedodd yr Arglwydd; a'r Arglwydd heb eu hanfon hwynt: a pharasant i eraill ddisgwyl am gyflawni y gair.
7 Onid ofer weledigaeth a welsoch, a gau ddewiniaeth a draethasoch, pan ddywedasoch, Yr Arglwydd a ddywedodd; a minnau heb ddywedyd?
8 Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Am lefaru ohonoch wagedd, a gweled ohonoch gelwydd; am hynny wele fi i'ch erbyn, medd yr Arglwydd Dduw.
9 A bydd fy llaw yn erbyn y proffwydi sydd yn gweled gwagedd, ac yn dewinio celwydd; yng nghyfrinach fy mhobl ni byddant, ac o fewn ysgrifen tŷ Israel nid ysgrifennir hwynt, i dir Israel hefyd ni ddeuant; a gwybyddwch mai myfi yw yr Arglwydd Dduw.
10 O achos, ie, o achos hudo ohonynt fy mhobl, gan ddywedyd, Heddwch; ac nid oedd heddwch; un a adeiladai bared, ac wele eraill yn ei briddo â chlai heb ei dymheru.
11 Dywed wrth y rhai a'i priddant â phridd rhydd, y syrth efe: canys curlaw a fydd, a chwithau gerrig cenllysg a syrthiwch; a gwynt tymhestlog a'i rhwyga.
12 Wele, pan syrthio y pared, oni ddywedir wrthych, Mae y clai â'r hwn y priddasoch ef?