18 Cymeraist hefyd dy wisgoedd o waith edau a nodwydd, ac a'u gwisgaist hwynt: fy olew hefyd a'm harogl‐darth a roddaist o'u blaen hwynt.
19 Felly fy mwyd yr hwn a roddaswn i ti, yn beilliaid, ac yn olew, ac yn fêl, â'r rhai y'th borthaswn di; rhoddaist hynny hefyd o'u blaen hwynt yn arogl peraidd: fel hyn y bu, medd yr Arglwydd Dduw.
20 Cymeraist hefyd dy feibion a'th ferched, y rhai a blantasit i mi; y rhai hyn a aberthaist iddynt i'w bwyta. Ai bychan hyn o'th buteindra di,
21 Ladd ohonot fy mhlant, a'u rhoddi hwynt i'w tynnu trwy y tân iddynt?
22 Ac yn dy holl ffieidd‐dra a'th buteindra ni chofiaist ddyddiau dy ieuenctid, pan oeddit lom a noeth, a'th fod yn ymdrybaeddu yn dy waed.
23 A bu ar ôl dy holl ddrygioni, (Gwae, gwae i ti! medd yr Arglwydd Dduw,)
24 Adeiladu ohonot i ti uchelfa, a gwneuthur i ti uchelfa ym mhob heol.