27 Am hynny wele, estynnais fy llaw arnat, a phrinheais dy ran, a rhoddais di wrth ewyllys dy gaseion, merched y Philistiaid, y rhai sydd gywilydd ganddynt dy ffordd ysgeler.
28 Puteiniaist hefyd gyda meibion Assur, o eisiau cael dy ddigon; a hefyd wedi puteinio gyda hwynt, ni'th ddigonwyd.
29 Amlheaist hefyd dy buteindra yng ngwlad Canaan hyd Caldea; ac eto ni'th ddigonwyd â hyn.
30 Mor llesg yw dy galon, medd yr Arglwydd Dduw, gan i ti wneuthur hyn oll, sef gwaith puteinwraig yn llywodraethu!
31 Pan adeiledaist dy uchelfa ym mhen pob ffordd, ac y gwnaethost dy uchelfa ym mhob heol; ac nid oeddit fel putain, gan dy fod yn dirmygu gwobr;
32 Ond fel gwraig a dorrai ei phriodas, ac a gymerai ddieithriaid yn lle ei gŵr.
33 I bob putain y rhoddant wobr; ond tydi a roddi dy wobr i'th holl gariadau, ac a'u gobrwyi hwynt i ddyfod atat oddi amgylch i'th buteindra.