32 Ond fel gwraig a dorrai ei phriodas, ac a gymerai ddieithriaid yn lle ei gŵr.
33 I bob putain y rhoddant wobr; ond tydi a roddi dy wobr i'th holl gariadau, ac a'u gobrwyi hwynt i ddyfod atat oddi amgylch i'th buteindra.
34 Ac ynot ti y mae y gwrthwyneb i wragedd eraill yn dy buteindra, gan na phuteiniodd neb ar dy ôl di: canys lle y rhoddi wobr, ac na roddir gwobr i ti, yna yr wyt yn y gwrthwyneb.
35 Gan hynny, O butain, clyw air yr Arglwydd:
36 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am dywallt dy frynti, a datguddio dy noethni trwy dy buteindra gyda'th gariadau, a chyda holl eilunod dy ffieidd‐dra, a thrwy waed dy feibion y rhai a roddaist iddynt;
37 Am hynny wele fi yn casglu dy holl gariadau gyda'r rhai yr ymddigrifaist, a'r rhai oll a geraist, gyda'r rhai oll a gaseaist; ie, casglaf hwynt i'th erbyn oddi amgylch, ac a ddinoethaf dy noethni iddynt, fel y gwelont dy holl noethni.
38 Barnaf di hefyd â barnedigaethau puteiniaid, a'r rhai a dywalltant waed; a rhoddaf i ti waed mewn llidiowgrwydd ac eiddigedd.