1 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,
2 Mab dyn, traetha ddychymyg, a diarheba ddihareb wrth dŷ Israel,
3 A dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Eryr mawr, mawr ei adenydd, hir ei asgell, llawn plu, yr hwn oedd iddo amryw liwiau, a ddaeth i Libanus, ac a gymerth frigyn uchaf y gedrwydden.
4 Torrodd frig ei blagur hi, ac a'i dug i dir marsiandïaeth: yn ninas marchnadyddion y gosododd efe ef.
5 A chymerth o had y tir, ac a'i bwriodd mewn maes ffrwythlon; efe a'i gosododd ef wrth ddyfroedd lawer, ac a'i plannodd fel helygen.